Deiseb Mabwysiadu Cyfraith Benedict a’r canllawiau statudol diweddaraf mewn ysgolion.
Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr o ran amddiffyn disgyblion agored i niwed sydd ag alergeddau a chyflyrau meddygol mewn lleoliadau addysgol.
Byddai Cyfraith Benedict a chanllawiau statudol wedi’u diweddaru yn cynnig amddiffyniad cryfach i'r plant hyn yng Nghymru.
Ni ddylai unrhyw blentyn ddioddef niwed y mae modd ei atal oherwydd gweithdrefnau anghyson, hyfforddiant annigonol, cyfathrebu gwael neu ganllawiau sydd wedi dyddio. Byddai'r newidiadau hyn yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn cyflwyno mesurau cadarn o ran diogelwch a chynhwysiant mewn modd cyson ledled Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae plant ag alergeddau difrifol sy’n mynd i leoliadau addysgol bob dydd mewn perygl o anaffylacsis — adwaith alergaidd cyflym sy'n peryglu bywyd a all ddigwydd o fewn munudau. Mae teuluoedd yn ymddiried yn llwyr yn y lleoliadau hyn i gadw eu plant yn ddiogel trwy hyfforddi staff yn briodol, rhoi polisïau clir ar waith ac ymateb yn effeithiol mewn argyfwng. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn digwydd mewn ffordd gyson.
Mae Lloegr eisoes wedi gwella ymwybyddiaeth o alergeddau a disgwyliadau o ran diogelu. Mae gan Gymru gyfle i ddilyn yr un trywydd.
Nid yw'r canllawiau statudol presennol yng Nghymru ar reoli alergeddau a chyflyrau meddygol yn ddigon cadarn. Mae arferion yn amrywio rhwng awdurdodau lleol a lleoliadau addysgol, gan greu anghysondeb sy’n golygu bod rhai plant yn llai diogel, a bod llai o ddarpariaeth ar eu cyfer, na phlant eraill.
Mae’r mater hwn yn effeithio ar blant ag alergeddau, ond hefyd ar blant ag asthma, diabetes, epilepsi, clefydau hunanimíwn a chyflyrau iechyd hirdymor eraill. Mae’n rhaid i deuluoedd deimlo’n hyderus bod ysgolion yn ddiogel, yn wybodus, yn barod ac yn gynhwysol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd