Deiseb a wrthodwyd Helpu busnesau lleol i lansio ar y stryd fawr

Rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru edrych ar sefydlu cymorth ar gyfer cynghorau lleol ledled Cymru i helpu i ailadfer y stryd fawr.

Gallai hyn fod drwy gynnig y cyfle i bobl leol gael eiddo sy’n berchen i’r cyngor am ddim am rai misoedd i’w helpu i sefydlu eu hunain. Gallai hyn hefyd fod drwy gynnig ardrethi busnes am ddim am rai misoedd i helpu hefyd.

Gallai hyn helpu i ailadeiladu ein stryd fawr a chefnogi’r gymuned leol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi