Deiseb Deddfu ar gyfer Cofrestr Lobïwyr
Mae gan bron pob democratiaeth Orllewinol Gofrestr Lobïwyr, sy’n cofnodi cyfarfodydd rhwng, ar y naill law, gwleidyddion, eu cynghorwyr, swyddogion ac eraill sy’n gysylltiedig â’r weinyddiaeth; ac, ar y llaw arall, gwmnïau, cyrff proffesiynol, lobïwyr, elusennau, grwpiau pwyso a sefydliadau ymgyrchu.
Rhagor o fanylion
Dylai’r Gofrestr gynnwys y wybodaeth ganlynol, a bod ar gael yn hawdd ar gyfer craffu cyhoeddus:
1/ Lleoliad ac amser y cyfarfod.
2/ Diben y cyfarfod.
3/ Enwau’r rhai a oedd yn bresennol, a phwy neu ba gorff yr oeddent yn eu cynrychioli.
4/ Y pynciau a drafodwyd.
5/ Canlyniadau’r cyfarfod.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd