Deiseb a gaewyd Diddymu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya 24 awr y dydd — os yw’n angenrheidiol, ei gadw dim ond ar adegau penodol.
Nid yw terfyn cyflymder o 20mya 24 awr y dydd ar ffyrdd cyfyngedig yn gwneud llawer o synnwyr. Gellid ei gyfyngu i amseroedd penodol os yw’n orfodol. Er enghraifft, anaml y bydd unrhyw un yn rhedeg, yn chwarae neu’n cerdded am 2:00 y bore, ac felly mewn perygl o gael ei daro gan gerbyd sy’n teithio ar 30mya.
Y cynnig yw dychwelyd at y terfynau cyflymder blaenorol cyn COVID. Ond os bernir bod y terfynau newydd yn angenrheidiol, gellid eu cyfyngu i oriau penodol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod