Deiseb Cefnogi’r broses o ddatblygu brechlynnau i achub gwiwerod coch rhag feirws brech y gwiwerod
Mae feirws brech y gwiwerod yn angheuol i wiwerod coch. Yn ystod tymor yr hydref 2023, trafododd y Senedd y broses o ddatblygu brechlynnau: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245357
Er gwaethaf ymrwymiad hanesyddol gan Weinidogion i ymchwilio i ddichonoldeb mesurau i ddiogelu gwiwerod coch, ar ôl dwy flynedd a hanner, nid yw’r Adran Materion Gwledig wedi penderfynu sut i gyflawni prosiect dichonoldeb ar gyfer brechlyn, fel yr addawyd.
Mae'n bryd bwrw ymlaen a chefnogi ymchwil arloesol newydd i frechlynnau.
Ar un adeg, roedd eliffantod yn wynebu feirws angheuol, nad oedd modd ei wella. Bum mlynedd yn ddiweddarach, roedd gwyddonwyr wedi creu brechlyn: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cjd1j02y88do
Mae angen mabwysiadu’r un meddylfryd i ddiogelu gwiwerod coch.
Rhagor o fanylion
Yn ddiweddar, pleidleisiodd cynghorwyr yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn unfrydol i annog Llywodraeth flaenorol Cymru i gymryd camau gweithredu i achub gwiwerod coch rhag bygythiad y frech: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/urgent-vaccine-needed-protect-angleseys-33501538
Mae’r brys gwleidyddol yn deillio o’r ffaith bod gwiwerod llwyd wedi ailoresgyn yr ynys, sy’n golygu ei bod yn anochel y bydd gwiwerod coch yn marw yn sgil achosion newydd o'r frech:
https://www.northwaleschronicle.co.uk/news/25789901.anglesey-conservationists-fear-future-red-squirrels/
Dylai Llywodraeth newydd Cymru weithredu fel catalydd ar gyfer ymdrechion cadwraeth llwyddiannus mewn perthynas â’r wiwer goch. Dylai’r Llywodraeth fod yn bragmatig, a dylai gefnogi gwaith ymchwil arloesol newydd i frechlynnau: https://research.bangor.ac.uk/cy/publications/a-protective-vaccine-against-the-pox-virus-for-red-squirrels/
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd