Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o’r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru

Yn ddiweddar, cododd y Senedd y trothwy ar gyfer bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 70 diwrnod o ddefnydd i 182 diwrnod. Mae’r trothwy hwn yn anodd iawn i'w gyflawni, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol. Mae’n cael effaith andwyol ar dwristiaeth, ac mae busnesau'n cau ar raddfa ofidus.

Rhagor o fanylion

Mae'r rhan fwyaf o'r llety gwyliau hyn yn adeiladau fferm sydd wedi cael eu haddasu neu'n llety sy'n anaddas i bobl fyw ynddynt yn barhaol. Nid ydym yn cymryd tai oddi wrth bobl sydd am brynu am y tro cyntaf. Rydym yn darparu llety gwyliau ar raddfa fach ac yn darparu cyflogaeth a refeniw i fusnesau lleol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,701 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon