Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i drefnu briff ar y teledu dan arweiniad y llywodraeth ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a natur
Mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir bod newid hinsawdd a cholli natur yn peri bygythiad cynyddol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ddadl gyhoeddus yn cael ei llunio fwyfwy gan gamwybodaeth. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i drefnu briff yn ystod oriau brig ar y teledu ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a natur, wedi’i gyflwyno gan arbenigwyr annibynnol, gan nodi:
- gwir raddfa a natur brys y bygythiadau sy'n wynebu Cymru;
- y dewisiadau y mae'r genedl yn eu hwynebu os yw am liniaru'r bygythiadau hyn.
Rhagor o fanylion
Dylai'r briff gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer briff dan arweiniad y llywodraeth fel y'u nodir gan sefydliad National Emergency Briefing: https://www.nebriefing.org/briefing-principles
https://www.llyw.cymru/llywodraeth-cymrun-datgan-ei-bod-yn-argyfwng-ar-yr-hinsawdd
https://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/yr-argyfwng-natur-atal-colli-bioamrywiaeth-erbyn-2030-yn-her-aruthrol/
https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0140673624020002
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd