Deiseb Gwneud Addysg Holocost, Hanes Prydain a Gwerthoedd Prydeinig yn Orfodol yng Nghanllawiau Statudol Cwricwlwm Cymru
Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswydd gyfreithiol i frwydro yn erbyn y cynnydd mewn gwrthsemitiaeth drwy wneud hanes yn bwnc gorfodol i bob disgybl yng Nghymru, a hynny er mwyn atal anllythrennedd hanesyddol. Dylai addysg am yr Holocost gael ei chynnwys yn y canllawiau statudol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau yng Nghwricwlwm Cymru, gydag ysgolion yn cael eu hannog i ddatblygu'r agwedd hon ar y cwricwlwm ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost. Ar ben hynny, rhaid i'r Llywodraeth orfodi ffocws ar hanes Prydain a'i gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bob ysgol nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, a darparu cyllid pwrpasol ar gyfer teithiau addysgol i safleoedd hanesyddol.
Rhagor o fanylion
Yn rhy hir, mae’r naill Lywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi gadael i safonau addysgol ddirywio, gan ganiatáu i gwricwlwm glastwraidd fethu ein pobl ifanc. Mae gwrthsemitiaeth a rhaniadau cymunedol ar gynnydd; rydym yn methu a throsglwyddo gwersi hollbwysig y gorffennol.
Rhaid inni ddychwelyd ar frys at addysg drwyadl sy’n llawn gwybodaeth. Camgymeriad yw caniatáu i ddisgyblion ollwng hanes cyn eu bod yn gallu amgyffred yn llawn wersi mawr yr 20fed ganrif. Drwy sicrhau bod hanes yn cael ei ddysgu hyd at 16 oed gyda ffocws newydd ar hanes Prydain ac integreiddio gwerthoedd sylfaenol Prydain, megis democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, a rhyddid yr unigolyn, gallwn feithrin dealltwriaeth briodol o'r dreftadaeth gyffredin sy'n diffinio ein gwlad.
Ynghyd ag addysg orfodol am yr Holocost, byddai hyn yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn deall canlyniadau trychinebus casineb dilyffethair. Mae ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ac wynebu'r gwirioneddau hyn yn ddyletswydd foesol glir.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd