Deiseb Llywodraeth Cymru i ddiwygio cyfreithiau trwyddedu amgylcheddol i gau'r 'bwlch rheoleiddio'.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio deddfau trwyddedu amgylcheddol i gau bwlch rheoleiddio critigol yn ymwneud â thirlenwi ledled Cymru sy'n gadael cymunedau yn ddiamddiffyn rhag allyriadau tirlenwi. Nid yw trwyddedau presennol yn llwyddo i atal arogleuon niweidiol rhag croesi perimedrau a llygru cymunedau lleol. I gau’r bwlch hwn, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth statudol newydd a fyddai’n sefydlu terfynau aer amgylchynol y gellid eu gorfodi'n gyfreithiol ar gyfer hydrogen sylffid.
Mae'r ddeiseb hon yn ymdrin â sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n datblygu drwy geisio gofynion pendant ar gyfer diwygio deddfwriaethol ledled y wlad. Mae'n cyflwyno gwerth 12 mis o ddata ansawdd aer pwysig, newydd eu casglu sy'n dangos lefelau llygredd uwchlaw 1 rhan fesul biliwn (ppb) am 36% o'r amser, a lefelau uwchlaw 5 ppb am 11% o'r amser ar draws y cyfnod cyfan. Mae'r data gwrthrychol hyn yn cyfeirio at ddata monitro crai a gafwyd trwy gais rhyddid gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam.
O’u dadansoddi'n wrthrychol yn erbyn meincnodau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)—sy'n cydnabod lefel o 0.4 i 0.5 ppb ar gyfer gallu dynol i glywed arogleuon a throthwy niwsans llym o 5 ppb—gwelir bod y cysylltiad cronig, hirdymor hwn yn bodloni'r meini prawf cyfreithiol ar gyfer Niwsans Statudol o ran Arogleuon o dan Ran III, adran 79(1)(d) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Deddf 1990).
Cyflwynir y data hyn am fod bylchau cyfreithiol systemig yn rhan o Ddeddf 1990. Mae gweithredwyr yn osgoi atebolrwydd drwy daeru eu bod yn defnyddio'r Dulliau Ymarferol Gorau ar y safle o fewn terfynau cul eu trwydded amgylcheddol gorfforaethol. Mae hyn yn creu naratif lle bydd gweithredwyr yn honni eu bod yn bodloni gofynion cydymffurfiaeth dechnegol yn ôl y gyfraith y tu ôl i'w gatiau wrth ollwng mygdarth rheolaidd i barthau preswyl. Mae angen diwygio deddfwriaethol gan y Senedd i droi data gwrthrychol yn sbardun gorfodol ar gyfer camau gweithredu gorfodadwy i symud oddi wrth leihau tuag at achosion o gau.

Rhagor o fanylion

Mae gwybodaeth gyhoeddus ynghylch trefniadau rheoleiddio'r safle ar gael yma: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/sut-rydym-yn-rheoleiddio-safle-tirlenwi-hafod-wrec/
(Noder: Cedwir yr holl ffeiliau data crai a gafwyd o dan y cais rhyddid gwybodaeth yn ddiogel gan y deisebydd; maent yn parhau i fod ar gael ar gais os bydd arbenigwyr neu Lywodraeth Cymru am graffu arnynt a'u dilysu yn y dyfodol).

Llofnodi’r ddeiseb hon

86 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon