Deiseb Dylid annog y Senedd i gryfhau'r Rheolau Sefydlog a chanllawiau sy'n atal gelyniaeth tuag at grwpiau gwarchodedig.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd i gryfhau'r Rheolau Sefydlog a chanllawiau ynghylch grwpiau gwarchodedig.

Mae iaith senoffobig wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y Seithfed Senedd hon.

Rydym yn cynnig y dylai'r geiriad fod fel a ganlyn:

"Rhaid i Aelod beidio â defnyddio iaith sy'n dirmygu, yn difenwi, neu'n annog gelyniaeth tuag at unrhyw grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010."

Gall y Llywydd ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod dynnu sylwadau o'r fath yn ôl neu gall alw Aelod i drefn."

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon