Deiseb Caniatáu i gludwyr gwastraff lleol ddefnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff y cyngor i waredu gwastraff cartref cyffredinol.

Yn fy niwydiant i, yn aml iawn, nid yw preswylwyr tai yn gallu gwaredu eu gwastraff eu hunain. Felly, maent yn gofyn am fy ngwasanaethau fel cludwr gwastraff masnachol, ac yna mae’n rhaid iddynt dalu am fy ngwasanaeth yn ogystal â’r ffi dipio mewn canolfan wastraff fasnachol, nad yw pawb yn gallu ei fforddio. Ni chaniateir i gludwyr gwastraff masnachol ddefnyddio canolfannau ailgylchu’r cyngor.

Rhagor o fanylion

Os mai gwastraff cartref ydyw, nid wyf yn gweld unrhyw broblem wrth ganiatáu i gludwyr gwastraff masnachol fynd â gwastraff cartref i ganolfannau ailgylchu gwastraff y cyngor, cyn belled â bod y canolfannau’n cael eu defnyddio’n gyfrifol a bod y gwastraff yn cael ei drefnu yn y sgipiau cywir ac ati. Yn fy marn i, byddai hyn yn lleihau tipio anghyfreithlon yn sylweddol ac yn hybu ailgylchu hefyd. Bydd hyn, heb os, o fudd i’r gymuned ac i’r amgylchedd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

75 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon