Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn drosedd ddisgyblu i adael siambr drafod y Senedd mewn protest yn erbyn cyfraniad Aelod arall

Mae Plaid Cymru ac Aelodau eraill o’r gwrthbleidiau wedi gadael y siambr drafod oherwydd anghytundebau a safbwyntiau personol gwahanol Aelodau Reform. Mae hyn yn golygu na ellir cynnal dadl ofalus ac ystyrlon sy’n adlewyrchu’n gywir bob rhan o boblogaeth bleidleisio Cymru. Mae’n gwastraffu’r cyflog sy’n cael ei dalu i’r Aelodau hyn am ddefnyddio eu hamser yn y siambr yn effeithiol. Mae gadael y siambr yn anghwrtais i gyfran fawr o’r etholwyr.

Rhagor o fanylion

Ar 17 Mehefin 2026, ymadawodd Zaynub Akbar AS Plaid Cymru â’r Senedd, gan annog Aelodau eraill i ddilyn, mewn protest yn erbyn sylwadau a wnaed gan un o Aelodau Reform.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi