Deiseb BIL DIOGELU GIG CYMRU
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru i gyflwyno Bil Diogelu GIG Cymru i ddiogelu a chryfhau gofal iechyd a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r GIG yn un o wasanaethau cyhoeddus mwyaf gwerthfawr Cymru, gan ddarparu gofal iechyd yn seiliedig ar angen yn hytrach na'r gallu i dalu. Credwn y dylai cenedlaethau'r dyfodol barhau i elwa o wasanaeth iechyd sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus, sy'n atebol i'r cyhoedd ac sy'n hygyrch i bawb.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o bobl yn pryderu ynghylch y pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG, gan gynnwys prinder o ran y gweithlu, galw cynyddol a chyfranogiad cynyddol darparwyr preifat mewn darparu gofal iechyd.
Credwn y dylid cymryd camau nawr i amddiffyn egwyddorion sylfaenol y GIG a helpu i sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor.
Gallai Bil Diogelu GIG Cymru helpu i ddiogelu gwasanaethau craidd y GIG, hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd, a sicrhau bod adnoddau gofal iechyd yn cael eu defnyddio'n deg er budd pawb sydd eu hangen.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddiogelu, cryfhau a chynnal GIG Cymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd