Deiseb Dyrannu'r swm llawn o gyllid canlyniadol i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu’r £500 miliwn mewn cyllid canlyniadol sy’n deillio o’r gwariant ar anghenion addysgol arbennig ac anabledd (AAAA) yn Lloegr yn uniongyrchol i awdurdodau lleol ac ysgolion, a’i neilltuo ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Er nad yw’r cyllid wedi'i rwymo'n gyfreithiol i'r un portffolio, mae'n bodoli o ganlyniad i bwysau addysg systemig nad yw’n diflannu wrth gyrraedd y ffin. Cyn y gyllideb atodol, rhaid sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn syth i'r rheng flaen, a hynny er mwyn cefnogi’r dysgwyr mwyaf agored i niwed yng Nghymru a sefydlogi ein hysgolion.

Rhagor o fanylion

Dyma’n galwadau ar Lywodraeth Cymru:

– Dyrannu'r swm llawn o gyllid canlyniadol yn benodol i ADY.

– Cyfeirio cyllid yn syth at y rheng flaen, gan sicrhau ei fod yn llifo'n uniongyrchol i awdurdodau lleol ac ysgolion, sydd â’r cyfrifoldeb cyfreithiol a'r pwysau dyddiol.

– Clustnodi’r adnoddau hyn er mwyn sicrhau nad oes modd eu dargyfeirio i bortffolios eraill yn y Llywodraeth.

– Buddsoddi ar unwaith er mwyn sefydlogi'r ddarpariaeth ADY bresennol a gwarchod y gwasanaethau presennol rhag toriadau dinistriol.

Heb fuddsoddiad wedi'i dargedu o’r math hwn, bydd deilliannau’r plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn dirywio'n sydyn. Bydd dysgwyr yn wynebu oedi a gostyngiadau difrifol mewn cymorth hanfodol, a bydd ysgolion yn gorfod ymestyn eu cyllidebau prin nes methu â chael deupen y llinyn ynghyd.

Mae hon yn foment dyngedfennol i addysg Cymru. Rydym yn eich annog i sefyll gydag ysgolion, dysgwyr a theuluoedd, a sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

1,509 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon