Deiseb Dylid ei gwneud yn ofynnol i *BOB* awdurdod lleol gael Fforymau Ieuenctid/Cynghorau Ieuenctid y tu allan i'r ysgol

Helô, Harvey ydw i, person ifanc o ogledd Cymru. Rwy'n gwirfoddoli i Barnardo's a Plant yng Nghymru. Rwyf hefyd yn llysgennad gweithredol i #iWill. Rwy'n credu y dylai fod yn gwbl angenrheidiol i'n llywodraeth ystyried ei gwneud yn orfodol i bob awdurdod lleol gael cyngor ieuenctid gorfodol gan fod cynghorau o’r fath yn ein helpu i gael mynediad at ein hawliau fel plant a phobl ifanc. Ar ben hynny, maen nhw’n rhoi i blant a phobl ifanc gyfleoedd gwell i weithio gyda'u cynghorau a hyd yn oed graffu arnyn nhw. Maen nhw’n helpu pobl ifanc i dynnu sylw at heriau sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu.

Rhagor o fanylion

Mae gan Wynedd, Conwy, a Wrecsam ill tair gynghorau/fforymau ieuenctid ac, o’r herwydd, mae mwy o gyfleoedd yn rheolaidd i bobl ifanc ac mae safon byw i bobl ifanc yn gyffredinol yn aml yn WELL yn yr ardaloedd hyn.

Llofnodi’r ddeiseb hon

9 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon