Deiseb Rhoi moratoriwm ar unwaith ar brosiectau ynni gwynt ar y tir sy'n defnyddio tyrbinau sy’n 200 metr neu’n uwch.

Mae tystiolaeth gynyddol, sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid, fod y defnydd o dyrbinau gwynt mawr, modern yn achosi niwed difrifol i iechyd pobl a'r amgylchedd.
Nid yw Canllawiau Sŵn 2026 yn cynnig unrhyw amddiffyniad rhag sŵn amledd isel nac is-sain, nac ychwaith rhag modylu osgledau (pwlsio) ar amleddau is.
Mae'r polisi’n seiliedig ar hen ddata sydd bellach yn amherthnasol. A dweud y gwir, nid oes unrhyw ddata dilys ynghylch lefelau pwysedd sain mewn senarios ar gyfer y byd sydd ohoni. Yn groes i'r canllawiau, GELLIR modelu’r broses o luosogi is-sain ar gyfer pellteroedd gwahanu diogel, a rhaid gwneud hynny.

Rhagor o fanylion

Mae adnoddau modelu sŵn tra-chywir ar gael, sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid, a fyddai’n llawer gwell na’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio, sef dulliau modelu sŵn nad ydynt yn ymdrin ag amleddau isel, tywydd, tirwedd ac ati.
Dylai’r cam o sicrhau pellteroedd gwahanu diogel oddi wrth eiddo preswyl a gweithleoedd fod yn rhan ofynnol o bob prosiect ac adroddiad effaith lleol.
Mae’r effeithiau sy’n gysylltiedig â dod i gysylltiad â lefelau uchel o is-sain wedi'i fodylu’n osgledol am 35 i 40 mlynedd yn gwbl anhysbys ac nid ydynt yn cael eu cydnabod gan awdurdodau.
Nid yw’r mater hwn yn cael sylw yn y Canllawiau Sŵn newydd, a luniwyd yn eu cyfanrwydd gan y diwydiant a'i ymgynghorwyr cyflogedig. Anwybyddwyd y dystiolaeth annibynnol.
Rhaid sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu perygl o ganlyniad i’r ras i gynhyrchu ynni adnewyddadwy pan fo technoleg amgen fwy diogel yn cael ei datblygu'n gyson.
Rydym yn gofyn am ymchwiliad agored, annibynnol a thryloyw, ac rydym am roi terfyn ar unwaith ar bob prosiect ynni gwynt ar raddfa fawr sydd wedi cael caniatâd, boed yn y broses gynllunio neu yn y cyfnod cyn cynllunio, tan y bydd yr ymchwiliad hwn wedi'i gwblhau.

Llofnodi’r ddeiseb hon

271 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon