Deiseb Rhoi terfyn ar weithredoedd cyhoeddus o greulondeb tuag at golomennod a meithrin empathi drwy addysg.

Mae colomennod yn anifeiliaid gwyllt ymdeimladwy sy’n haeddu cael eu gwarchod rhag creulondeb. Mae niweidio neu ladd colomennod yn gyhoeddus yn fwriadol yn peri gofid, yn gallu annog gweithredoedd pellach o drais tuag at anifeiliaid ac, ar ben hynny, yn tanseilio parch at fywyd gwyllt. Dylai fod cysondeb yn y ffordd mae cyfreithiau lles anifeiliaid presennol yn cael eu gorfodi, a dylai fod mwy o bwyslais ar addysgu pobl am empathi a thrin pob anifail yn drugarog.

Rhagor o fanylion

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r heddlu, awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod gweithredoedd bwriadol o greulondeb tuag at golomennod yn gyhoeddus yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn destun ymchwiliad lle gall troseddau fod wedi’u cyflawni o dan ddeddfwriaeth lles anifeiliaid.
Rydym hefyd yn gofyn bod mentrau addysgol sy’n meithrin empathi, tosturi a pharch at fywyd gwyllt yn cael eu cefnogi mewn ysgolion a chymunedau. Mae ymchwil wedi dangos bod meithrin empathi tuag at anifeiliaid yn gallu helpu i feithrin ymddygiad cyfrifol ac atal creulondeb.
Mae colomennod yn aml yn cael cam drwy gael eu hystyried yn bla, ond maent yn anifeiliaid deallus, cymdeithasol sy’n chwarae rhan mewn ecosystemau trefol. Ni ddylai unrhyw anifail ddioddef yn ddiangen am y rheswm syml ei fod yn gyffredin neu wedi’i gamddeall. Dylai gweithredoedd cyhoeddus o greulondeb tuag at anifeiliaid arwain at ganlyniadau priodol ac addysg er mwyn atal niwed yn y dyfodol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon