Deiseb Rydym yn galw ar y Senedd i wrthod unrhyw gamau i ddifa moch daear yng Nghymru.
Mae Lloegr wedi lladd ¼ miliwn o foch daear ond mae ganddi gyfradd uwch o achosion o TB buchol na Chymru O HYD. Mae'r ddwy wlad wedi sicrhau gostyngiadau ar bob metrig allweddol, ond llwyddwyd i wneud hyn yng Nghymru heb unrhyw gamau i ddifa moch daear. Mae bron i 95% o fuchesi yng Nghymru yn rhydd o TB buchol yn swyddogol, sy’n agos at y lefel isaf mewn dau ddegawd. Clefyd sy’n effeithio ar wartheg yw hwn, ac mae mesurau sy’n benodol i wartheg wedi bod yn effeithiol yn y ddwy wlad. NID OES UNRHYW dystiolaeth wyddonol i ddangos bod difa moch daear wedi chwarae unrhyw ran yn y gostyngiadau yn Lloegr.
Rhagor o fanylion
Byddai difa moch daear yn ddisynnwyr ac yn difrodi bywyd gwyllt ymhellach, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’n cael unrhyw effaith ar TB buchol. Dylai Cymru fod yn falch o'i record a pheidio â mynd yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma.
Byddai mabwysiadu model o ladd bywyd gwyllt sydd eisoes wedi'i ddangos i fod yn aneffeithiol yn ffolineb llwyr ac yn hynod anghyfrifol. Mae Cymru’n ymfalchïo yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac rydym yn annog y Senedd i barhau i roi’r ddeddfwriaeth hon wrth wraidd polisi i ddileu TB a gwrthod galwadau i ddifa moch daear.
Rhaid i ymgynghoriad cyhoeddus llawn gyd-fynd ag unrhyw newid mewn polisi yng Nghymru.
Dangosfwrdd TB y DU 2026
https://www.gov.uk/government/statistics/incidence-of-tuberculosis-tb-in-cattle-in-great-britain/
Dadansoddiad o effaith difa moch daear ar dwbercwlosis buchol yn ardal risg uchel Lloegr, 2009–2020, Cofnod Milfeddygol 2022, Langton et al
https://bvajournals.onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1002/vetr.1384
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl
Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion