Deiseb Gwahardd defnyddio barbeciws untro a thanau agored ar holl fynyddoedd a glaswelltiroedd Cymru yn ystod yr haf
Gyda hafau cynyddol sych a phoeth, mae llawer o dirwedd Cymru wedi dod yn amgylchedd risg uchel ar gyfer tanau gwyllt. Mae mwyafrif y tanau gwyllt hyn yn cael eu hachosi gan weithgaredd dynol - cynnau bwriadol a defnydd di-hid o farbeciws untro neu danau gwersyll agored.
Oherwydd y crynodiad uchel o fawn diraddedig mewn ardaloedd o ucheldir, mae tanau'n anodd iawn eu rheoli a'u diffodd, gan arwain at ddinistrio ein tirweddau hardd ac effeithio ar gymunedau lleol.
Rhagor o fanylion
Fel preswylydd ger Blaenafon, rwyf wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio barbeciws tafladwy neu'n adeiladu tanau gwersyll mewn ardaloedd risg uchel dros y blynyddoedd diwethaf, gan wneud i danau mawr deimlo'n anochel ac yn rhwystredig o ataliadwy.
Mae’r tanau sy'n deillio o hyn yn effeithio ar ein hamgylchedd a'r bywyd gwyllt lleol, ond ar ben hynny, mae'r gost ddynol hefyd yn ddifrifol.
Mae mwg trwm wedi effeithio’n ddifrifol ar filoedd o drigolion ar draws yr ardaloedd cyfagos lle mae tanau yng ngogledd a de Cymru. Mae unigolion agored i niwed sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes wedi bod yn gaeth dan do am ddyddiau hir, yn methu agor ffenestri yn ystod tywydd poeth o 27°C. Mae'r mwg hefyd yn achosi perygl i unigolion iach, gan fod y gronynnau a'r cyfansoddion organig anweddol mewn mwg yn gallu treiddio'r alfeoli yn yr ysgyfaint a mynd i mewn i'r llif gwaed, lle gallant achosi niwed yn unrhyw le yn y corff.
Mae angen gweithredu ar frys ar reoli tir, gorfodi cyhoeddus, a gwahardd fflamau agored mewn parthau o risg uchel.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd