Deiseb Sgrinio SMA i'w ychwanegu at raglen sgrinio babanod newydd-anedig Cymru
Mae atroffi cyhyrol yr asgwrn cefn (SMA) yn gyflwr genetig prin sy'n achosi i'r cyhyrau fynd yn wan a nychu. Mae'n effeithio ar fabanod a phlant, er y gall ffurfiau ysgafnach ymddangos yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gellir cynnal prawf pigo sawdl syml mewn rhaglenni sgrinio babanod newydd-anedig. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd sgrinio SMA babanod newydd-anedig yn dechrau ym mis Hydref 2026 ar gyfer Lloegr yn unig. Mae'r Alban eisoes yn sgrinio, ond nid oes gan Gymru gynlluniau i wneud hynny.
Rhagor o fanylion
Pam mae sgrinio babanod newydd-anedig yn bwysig?
Dyma pam mae cymaint o ddiddordeb mewn sgrinio babanod newydd-anedig.
Gall prawf gwaed syml a gymerir yn ystod dyddiau cyntaf bywyd ganfod y rhan fwyaf o fabanod sydd â SMA cyn i'r symptomau ymddangos.
Mae diagnosis cynnar yn bwysig oherwydd bod triniaethau’n gweithio orau cyn i niwronau motor gael eu colli am byth. Mae babanod sy'n cael eu trin cyn i symptomau ddatblygu yn aml yn sicrhau canlyniadau llawer gwell na'r rhai sy'n cael eu trin ar ôl i wendid ddechrau.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd