Deiseb Gwneud y brechlyn ar gyfer yr eryr yn fwy hygyrch
Rydw i wedi dioddef ers 7 wythnos gyda’r eryr ar fy wyneb yn lledaenu i fy llygad, gan achosi dallineb am rai diwrnodau a llid ar fy ymennydd, gan wneud i mi gael trawiad a chwympo a bod mewn cyflwr lle nad oeddwn i’n ymateb, gan arwain at gyfnod o bythefnos yn aros mewn ysbyty. Rwy’n credu bod hyn oherwydd oedi o ran cael y feddyginiaeth wrthfeirysol oedd ei hangen arnaf.
Rhagor o fanylion
Dydw i ddim yn cael gyrru am o leiaf 6 mis. Mae wedi effeithio ar fy ngwaith, fy mywyd yn gyffredinol, a sut rwy’n gallu gofalu am fy merch. Rwy’n byw gyda phoen yn ddyddiol erbyn hyn. Dydw i ddim yn gallu cael y brechlyn oherwydd fy oedran – dim ond 33 ydw i. Mae’n rhaid bod yn 65 oed i fod yn gymwys i gael y brechlyn, ac eithrio’r rai sydd â system imiwnedd sydd wedi’i wanhau’n sylweddol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd