Deiseb Dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud biniau glanweithdra yn orfodol mewn toiledau cyhoeddus dynion
O fy niagnosis canser y prostad fy hun, rwy'n gwybod pa mor anodd, chwithig, ac yn aml ddiraddiol yw gorfod defnyddio padiau glanweithdra pan nad oes bin glanweithdra mewn toiledau dynion imi gael gwared ar y pad gydag urddas. Mae hyn yn aml yn golygu nad wyf yn mynd allan.
Rwy'n ymgyrchu dros finiau i fechgyn ym mhob toiled cyhoeddus yng Nghymru. Mae Bro Morgannwg eisoes wedi croesawu fy ymgyrch - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gallwn wneud gwahaniaeth i gymaint o ddynion gyda'r gefnogaeth hylendid sylfaenol hon.
Rhagor o fanylion
Mae hyn yn achos pryder cyffredin gyda dynion eraill rwy'n siarad â hwy yn fy ngrŵp canser, CHILL - Cancer Help In Local Lives, sy'n profi'r angen am newid.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd