Deiseb Newid y gyfundrefn dysgu Cymraeg i Oedolion er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg
I gyrraedd y nod hwn, rydym yn galw am newid y ffordd yr ydym yn dysgu Cymraeg, drwy ddod â dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ynghyd.
Rhagor o fanylion
Yn ystod gwersi Dysgu Cymraeg, mae’r tiwtoriaid yn gweithio'n galed er mwyn dysgu Cymraeg i oedolion. Yn rhy aml, fodd bynnag, mae natur y dysgu yn y dosbarth yn wahanol iawn i’r modd y mae pobl Cymraeg eu hiaith yn siarad.
Hoffwn weld mwy o ffocws ar ddod â gwersi Cymraeg a'r gymuned Gymraeg ynghyd, mewn gwersi ffurfiol a sesiynau anffurfiol a ddarperir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg, a thrwy gefnogi mentrau iaith a sefydliadau cymunedol yn ehangach.
Er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, rhaid i'r Llywodraeth newydd ddarparu mwy o gymorth ar gyfer dulliau amrywiol o ddysgu'r iaith er mwyn i'r Gymraeg lwyddo fel iaith fyw.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd