Deiseb Amserlen ysgolion - pedwar diwrnod i mewn a phedwar diwrnod i ffwrdd

Cafodd yr wythnos ysgol bum niwrnod ei chynllunio dros 150 mlynedd yn ôl ar gyfer bywyd ffermio a bywyd ffatri; mae wedi dyddio’n llwyr ac nid yw'n gydnaws â sut rydym yn byw nac yn dysgu yn 2026. Bydd cael pedwar diwrnod i mewn a phedwar diwrnod i ffwrdd yn gadael i ddisgyblion gael seibiant neu amser i ddal i fyny â gwaith ysgol os oes angen gwneud hynny rhwng diwrnodau ysgol; ar hyn o bryd mae disgyblion ysgol dan lawer o bwysau i fod yn yr ysgol bum niwrnod yr wythnos a dim ond dau ddiwrnod i ffwrdd sydd ganddynt. Yn ystod y deuddydd hwn, mae ysgolion yn disgwyl iddyn nhw wneud eu gwaith cartref ac ati yn eu hamser eu hunain.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon