Deiseb Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhan gaeedig o Lwybr Cwm Garw yn cael ei hadfer a’i throsglwyddo
Rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhan gaeedig o Lwybr Cwm Garw yn cael ei throsglwyddo o Network Rail UK i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a thrwy hynny sicrhau dyfodol llwybr cymunedol poblogaidd iawn. Dylai’r cytundeb hwn gynnwys ymrwymiad gan Network Rail UK i gyfrannu at gostau atgyweirio seilwaith y llwybr i safon foddhaol cyn ei drosglwyddo.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd