Deiseb Galw pôl ar Sero Net 2040

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Sero Net 2040 (10 mlynedd cyn amserlen bresennol Llywodraeth y DU) yn amhosibl eu cyflawni a gallant niweidio cymunedau, busnesau a chefn gwlad Cymru.

Rhagor o fanylion

Mae'n amlwg bod yr agenda sero net yn cwympo ledled y byd wrth i wledydd ddod i ddeall ei bod yn hynod ddrud.

Mae ideoleg Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar fodelu hinsawdd diffygiol, astudiaethau sydd wedi dyddio a chamwybodaeth ynghylch effeithiau a chostau.

Mae Claire Courtinho AS, Gweinidog Ynni yr Wrthblaid yn y DU, wedi amlygu bod Adran Diogeledd Ynni a Sero Net y DU, NESO (Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol) ac Ofgem wedi tanamcangyfrif prisiau ynni adnewyddadwy gymaint â 300%.

Yn waeth na hynny, mae chwythwyr chwiban yn cael eu tewi a'u disgyblu wrth dynnu sylw at freuder y cyflenwad trydan sy'n dibynnu ar ynni adnewyddadwy a mewnforion.

Rhaid i Gymru beidio â chyfrannu at ddinistrio ein treftadaeth, ein tirwedd a'n natur yn enw ideoleg ddiffygiol iawn.

Llofnodi’r ddeiseb hon

50 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon