Deiseb Rhoi mynediad drwy'r GIG i Lecanemab a Donanemab ar bresgripsiwn
Rwyf wedi bod yn rhan o ymchwil i glefyd Alzheimer ers 15 mlynedd a hoffwn gael y cyfle i gael mynediad at gyffuriau a allai ohirio symptomau clefyd Alzheimer, nid yn unig i mi fy hun ond i bawb sy'n dioddef o ddementia.
Rhagor o fanylion
Mae Lecanemab a Donanemab yn gyffuriau sydd wedi'u trwyddedu gan MHRA y DU, ar gyfer trin symptomau Alzheimer ysgafn. Mae wedi'i brofi'n glinigol i arafu dilyniant clefyd Alzheimer. Dangosodd treialon clinigol eu bod wedi arafu dechrau Clefyd Alzheimer cynnar ymysg pobl.
Mae bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda Dementia yn y DU, sy’n costio tua £42 miliwn y flwyddyn i'r economi.
Mae clefyd Alzheimer teuluol yn cyfrif am lai nag 1% o'r holl achosion o Ddementia. Bydd pobl sy'n cario'r mwtaniad genetig hwnnw'n datblygu symptomau Clefyd Alzheimer cyn 65 oed.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd