Deiseb Adolygu'r rheolau ar gyfer tai cymdeithasol er mwyn amddiffyn tenantiaid anabl rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol
Nid oes gan denantiaid anabl a'r rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd cronig lawer o egni i ymdopi ag ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol gan gymdogion sydd â phroblemau caethiwed heb eu rheoli. Dylai'r broses ddyrannu tai ystyried pa mor addas yw tenantiaid i fyw ochr yn ochr â'i gilydd, a rhaid sicrhau bod y prosesau ar gyfer rhoi gwybod am broblemau yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i denantiaid sy'n agored i niwed.
Rhagor o fanylion
Rwy'n byw gyda ffibromyalgia ac endometriosis. Ers symud i dŷ cyngor yng Nghymru, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a pharhaus gan gymdogion sydd â phroblemau caethiwed wedi achosi diffyg cwsg, ofn a gwaethygu fy iechyd, er fy mod wedi rhoi gwybod dro ar ôl tro i'r cyngor a'r heddlu.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd