Deiseb Atal unrhyw gamau sy’n arwain at golli gwelyau a chyfleusterau, yn ogystal â chau ysbytai cymunedol, o ganlyniad i’r adolygiad o ofal iechyd gwledig ym Mhowys

Nid cau pob un ond 60 o welyau ysbytai cymunedol dan arweiniad meddygon teulu ym Mhowys, lle nad oes ysbyty cyffredinol na hosbis, yw'r ffordd o ddarparu gofal. Mae’n rhaid ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, yn hytrach na gwneud toriadau llym.

Rwy'n galw ar y Senedd a'r Gweinidog Iechyd i ddechrau ymchwiliad llawn a chynnal dadl ar gamau i ddarparu a chyflenwi gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig, ac i sicrhau nad oes unrhyw newid yn nifer y gwelyau, y gwasanaethau na'r ysbytai ym Mhowys cyn i’r gwaith hwn gael ei wneud.
Mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol bob amser. Mae atal yn well na gwella, ac mae pob un ohonom am gael gofal yn nes at adref, gan fyw'n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain a chael gofal brys neu ofal mewn ysbyty cyffredinol pan fydd ei angen arnom.

Rhagor o fanylion

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) mewn trafferthion ariannol:
https://herald.wales/mid-wales/powys/powys-health-board-records-33m-deficit-withdraw-delivering-savings-targets/.

Er y bydd mesurau ataliol yn helpu i leihau costau yn y tymor hir, ymddengys mai ateb tymor byr BIAP yw cael dim ond 60 o welyau ym Mhowys a chau ysbytai cymunedol - https://www.bbc.co.uk/news/articles/c9w0jj2lgn4o.

Nid oes ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Yn y cyd-destun hwn, mae cwtogi ar wasanaethau lleol presennol yn golygu mwy o deithio, colli apwyntiadau, dirywiad mewn iechyd, mwy o dderbyniadau brys, mwy o gostau i’r GIG ac iechyd gwaeth ymhlith y boblogaeth. Mae angen ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, gan osgoi toriadau eithafol i gyrraedd targedau ariannol. Ein hiechyd ni sy'n dod yn gyntaf!

Mae crynodeb "Gwella Gyda'n Gilydd" ar gael isod:
https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/gwella-gydan-gilydd/

Llofnodi’r ddeiseb hon

7,904 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon