Deiseb Helpu Mwncïod yng Nghymru. Cyflwyno deddfwriaeth sy'n cyfateb i reoliadau Trwyddedu Primatiaid Lloegr.
Mae primatiaid yn anifeiliaid cymdeithasol, hiroesog a deallus iawn sydd ag anghenion corfforol, ymddygiadol a seicolegol cymhleth. Maent angen gofal arbenigol, lleoliad priodol, cwmni eu rhywogaeth eu hunain a chymorth milfeddygol arbenigol na ellir ei ddarparu fel arfer mewn lleoliadau domestig. O ganlyniad i hyn, mae llawer o brimatiaid a gedwir yn breifat yn profi llesiant gwael, problemau ag ymddygiad a dioddefaint hirdymor yn gorfforol ac yn feddyliol.
Rhagor o fanylion
Cyflwynodd Lloegr Drwyddedau Primatiaid o dan Reoliadau Llesiant Anifeiliaid (Trwyddedau Primatiaid) (Lloegr) 2024, gan ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cadw mwnci fodloni safonau llesiant llym ar lefel sw drwy system drwyddedu ac arolygu. Cyflwynwyd y rheoliadau i wella llesiant drwy sicrhau mai dim ond ceidwaid arbenigol gyda chyfleusterau arbenigol all fodloni'r gofynion cyfreithiol.
Nid yw Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth gyfatebol eto. Mae hyn yn creu amddiffyniadau llesiant anghyson ledled y DU, ac mae’n peri risg y bydd Cymru yn dod yn genedl sy'n caniatáu i fridwyr diegwyddor elwa'n ariannol o gam-drin ac esgeuluso mwncïod ac epaod a gedwir yn breifat. Mae hyn eisoes yn digwydd fel y gwelir gan y gwerthiant parhaus o brimatiaid mewn cewyll adar yng Nghymru nad oes ganddynt unrhyw safonau cyfreithiol ar gyfer eu gofal arbenigol. Rydym yn mynnu cyfiawnder i'r rhai nad oes ganddynt lais.
Cefnogir y ddeiseb hon gan Monkey World - Ape Rescue Centre.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd