Deiseb Dylai Aelodau o’r Senedd a etholwyd trwy fod ar restr plaid ymddiswyddo os ydynt yn gadael y blaid honno

Mae pleidleiswyr yn dewis plaid wleidyddol a’i rhestr o ymgeiswyr.

Os bydd Aelod a etholwyd trwy fod ar y rhestr honno'n gadael y blaid, gall gadw'r sedd ar hyn o bryd ac ymuno â phlaid arall heb i bleidleiswyr gael dweud yn y mater.

Os bydd Aelod yn gadael y blaid y cafodd ei ethol drosti trwy fod ar restr y blaid honno, credwn y dylai'r sedd fynd i'r ymgeisydd cymwys nesaf ar y rhestr wreiddiol.

Rhagor o fanylion

Nid atal Aelodau rhag newid eu daliadau gwleidyddol yw nod y cynnig hwn.

Mae'n ymwneud â diogelu'r bleidlais gafodd ei bwrw gan y cyhoedd.

O dan system rhestr gaeedig, mae pleidleiswyr yn dewis plaid wleidyddol a’i rhestr o ymgeiswyr. Os bydd Aelod a etholwyd o'r rhestr honno'n gadael y blaid yn ddiweddarach, nid oes gan y pleidleisiwr gyfle i gymeradwyo'r newid hwnnw.
Byddai system decach yn caniatáu i'r Aelod adael y blaid, os dyna a ddymunir, ond byddai'n ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod ildio'r sedd rhestr. Yna gallai'r sedd fynd i'r ymgeisydd cymwys nesaf ar restr wreiddiol y blaid.

Byddai hyn yn golygu bod y canlyniad yn nes at ddewis y pleidleiswyr yn yr etholiad a thrwy hynny helpu i gynnal ffydd yn system etholiadol y Senedd.

Llofnodi’r ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon