Deiseb Gwneud i landlordiaid ac asiantau gosod eiddo gofnodi canlyniadau ceisiadau rhentu fel y gellir profi achosion o wahaniaethu

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau gosod eiddo yng Nghymru gofnodi canlyniad pob cais rhentu, gan gynnwys a yw'r ymgeisydd wedi datgan budd-daliadau, anabledd, neu blant, ac adrodd y canlyniadau hynny i Rentu Doeth Cymru. Dylai cofnodion gael eu cadw yn ddiogel fel y gall cynghorau ymchwilio i achosion unigol a gall ymgeiswyr ofyn am eu ceisiadau eu hunain, gyda’r enwau’n cael eu dileu o unrhyw ffigurau sy’n cael eu cyhoeddi.

Rhagor o fanylion

Ers 1 Mehefin 2026, mae wedi bod yn anghyfreithlon yng Nghymru i wrthod tenantiaid oherwydd eu bod yn derbyn budd-daliadau neu am fod ganddynt blant. Mae anabledd a rhyw yn warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ond ni all y gyfraith weithio os na ellir profi bod gwahaniaethu wedi digwydd, a phrin iawn y gellir gwneud hynny ar hyn o bryd.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn rheoleiddio landlordiaid ac mae Shelter Cymru yn cynnig cymorth cyfreithiol, ond nid oes neb yn goruchwylio’r cam cyntaf ym mhroses rhentu: gwneud cais. Gall rhywun gael ei wrthod ddwsinau o weithiau heb reswm yn cael ei gynnig na chofnod yn cael ei gadw. Mae un gwrthodiad yn profi dim.
Mae asiantau eisoes yn gwybod pwy sy'n cael budd-daliadau, gan eu bod yn gofyn am brawf o incwm fel llythyrau Credyd Cynhwysol neu PIP. Defnyddir hynny wrth wneud penderfyniadau, ond nid yw byth yn cael ei gofnodi mewn ffordd y gall rhywun ei wirio. Yr unig ddata ar bwy sy'n cael cartrefi yw’r hyn sydd gan safleoedd preifat fel Zoopla.
Byddai cofnod diogel dan ofal Rhentu Doeth Cymru yn dangos patrymau na ellir eu gweld mewn achosion unigol, byddai’n gadael i gynghorau ymchwilio i asiantau penodol, a byddai’n sicrhau bod gan denantiaid dystiolaeth os cânt eu gwrthod ar gam. Heb gofnod o’r fath, mae amddiffyniadau Mehefin 2026 yn ddim mwy na geiriau ar bapur.

Llofnodi’r ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon