Deiseb Dim mwy o oedi: Sicrhewch Enhertu i gleifion â chanser metastatig y fron HER2-isel yng Nghymru
Mae Enhertu yn driniaeth sy’n gallu rhoi mwy o amser i bobl â chanser metastatig y fron HER2-isel. Mae ar gael i gleifion cymwys yn Lloegr ac mae wedi bod ar gael yn yr Alban ers 2023, ond mae pobl yng Nghymru yn dal i aros. Ni ddylai mynediad at driniaeth ddibynnu ar ba ochr o’r ffin mae rhywun yn byw. Rydyn ni’n galw am fynediad drwy GIG Cymru ac amserlen glir ar gyfer ei ddarparu.
Rhagor o fanylion
Mae’r degau o filoedd o bunnoedd a godwyd gan SheUltra Cymru ar gyfer Breast Cancer Now yn cefnogi ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn ymchwilio i wneud canser triphlyg-negyddol y fron yn fwy sensitif i gemotherapi. Mae hwn yn fath gwahanol o ganser y fron i’r canser HER2-isel sy’n cael ei dargedu gan Enhertu, ond mae’n dangos cyfraniad pwysig Cymru at ymchwil canser y fron.
Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr bod ymchwil bwysig yn digwydd yng Nghymru tra bod cleifion cymwys yma’n aros am driniaeth sydd ar gael dros y ffin.
Fi ydy Huw Williams, sylfaenydd SheUltra Cymru, ultramarathon menywod yn unig mwyaf y byd. Rydw i’n byw gyda chanser niwroendocrin cam pedwar nad oes modd ei drin, felly dwi’n gwybod beth mae’r gobaith o gael mwy o amser yn ei olygu i gleifion a’u teuluoedd.
Mae Lloegr a’r Alban wedi gweithredu. Rhaid i Gymru fod nesaf.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd