Deiseb Gwneud archwiliadau meddygol safonol yn ofynnol ar ôl hysterectomi: 6 mis a 12 mis yn orfodol.

Rydym am i’r Llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i’r GIG ddarparu archwiliadau meddygol strwythuredig a rheolaidd 6 mis a 12 mis ar ôl llawdriniaeth i bob claf sydd wedi cael hysterectomi, beth bynnag fo’u hoedran, er mwyn monitro eu hadferiad corfforol, hormonaidd a seicolegol.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o gleifion sy’n cael hysterectomi yn cael eu rhyddhau o ofal llawfeddygol ar ôl un archwiliad chwe wythnos yn unig, neu’n cael eu trosglwyddo’n llwyr i ofal sylfaenol heb adolygiad wedi’i drefnu. Mae hysterectomi yn llawdriniaeth fawr sy’n newid bywyd, gyda goblygiadau parhaol anatomegol, hormonaidd a seicolegol. Gall methu â darparu apwyntiadau dilynol strwythuredig olygu na chaiff cymhlethdodau llawr y pelfis, menopos llawfeddygol heb ei reoli, poen a achosir gan adlyniadau, a gofid emosiynol difrifol eu nodi na’u trin.

Llofnodi’r ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon