Deiseb Cynnig sgan beichiogrwydd cynnar gan y GIG i bob menyw feichiog yng Nghymru rhwng wythnosau 6 i 8

I lawer o fenywod, caiff y sgan arferol cyntaf gyda’r GIG ei gynnal ymhen rhyw 12 wythnos, gan adael bron y tri mis cyntaf cyfan heb sicrwydd rheolaidd. I’r rhai sy'n gallu eu fforddio, mae sganiau preifat cynharach ar gael, ond rhaid i'r rhai sy’n methu â’u fforddio aros, oni bai bod problemau'n codi. Gallai cynnal sgan rhwng wythnosau 6 i 8 gynnig tawelwch meddwl, datgelu yn gynharach feichiogrwydd sydd angen asesiad pellach, a lleihau'r anghydraddoldeb hwn. Dylai gofal beichiogrwydd cynnar fod yn rhagweithiol, nid rhywbeth sydd ond ar gael i fenywod pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le.

Rhagor o fanylion

Gall wythnosau cyntaf beichiogrwydd olygu ansicrwydd emosiynol dirfawr, er gwaethaf y ffaith nad oes llawer o gyswllt rheolaidd â'r GIG yn ystod y cyfnod hwn. Gallai sganio cynharach helpu i gadarnhau bod beichiogrwydd yn datblygu yn y groth, rhoi sicrwydd lle bo'n briodol, a chaniatáu i feichiogrwydd sydd angen asesiad pellach ddilyn y llwybr gofal cywir yn gynt. Mae’r ffaith bod sganiau cynnar preifat ar gael yn rhwydd i'r rhai sy'n gallu talu yn creu anghydraddoldeb o ran mynediad at sicrwydd. Nid gwarantu hyfywedd yn y chweched wythnos yw nod y cynnig hwn, ond gofal beichiogrwydd cynnar teg a thosturiol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

7 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon