Deiseb Mae angen gorfodi camerâu corff ar ofalwyr i amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed
Dylai unrhyw un sy'n methu cyfathrebu ac sy'n dibynnu ar ofalwr gael gwell amddiffyniad. Nid yw bod yn destun gwiriadau yn ddigon da. Os yw person sy’n agored i niwed yn cael ei gefnogi gan ofalwr cartref,
neu yn y gymuned, ar sail un-i-un, yna dylai'r gweithiwr wisgo camera corff bob amser. Gellir adolygu’r lluniau, wedyn, ar unrhyw adeg. Byddai hynny’n cynnig tawelwch meddwl i anwyliaid y mae dirfawr angen seibiant arnynt, a phan na fyddan nhw o gwmpas, mwyach, i ddarparu gofal.
Rhagor o fanylion
Nid yw bod yn destun gwiriadau yn ddigon.
Gadewch inni ddefnyddio technoleg at ddiben mor bwysig, ar gyfer y rheini sy'n agored i niwed ac er tawelwch meddwl eu hanwyliaid.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd