Deiseb Galw i gadw’r holl oleuadau stryd ymlaen ar ôl iddi dywyllu i’w gwneud yn fwy diogel i fenywod gerdded a rhedeg.

Mae llawer o fenywod a merched yn osgoi cerdded neu redeg ar ôl iddi dywyllu oherwydd eu bod yn teimlo'n anniogel pan fydd strydoedd a llwybrau wedi'u goleuo'n wael neu pan fydd goleuadau wedi'u diffodd. Gall goleuadau stryd da ei gwneud yn haws i bobl weld a’u helpu i deimlo’n fwy diogel wrth deithio ar droed. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod goleuadau stryd yn aros ymlaen ar ôl iddi dywyllu.

Rhagor o fanylion

Mae'r ddeiseb hon yn cefnogi ymgyrch Athletau Cymru Ein Nos Ni / Own The Night, sy'n tynnu sylw at bryderon menywod am ddiogelwch wrth redeg yn y nos neu’n gynnar yn y bore. Mae Athletau Cymru wedi galw am lwybrau mwy diogel, wedi'u goleuo'n dda i redwyr. Byddai cadw goleuadau stryd ymlaen ar ôl iddi dywyllu yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn ac yn ei gwneud yn haws i fenywod gerdded, rhedeg ac ymarfer corff yn ddiogel yn eu cymunedau lleol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

4 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon