Deiseb Creu llwybr Cymru gyfan rhwng gofal niwroddatblygiadol preifat a gofal y GIG

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr Cymru gyfan sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd y GIG adolygu’n ffurfiol asesiadau preifat o awtistiaeth ac ADHD yn erbyn safonau clinigol cyhoeddedig. Dylai'r llwybr hefyd ei gwneud yn ofynnol i'r byrddau iechyd esbonio'n ysgrifenedig pryd mae tystiolaeth yn cael ei darparu, ystyried gofal a rennir neu ofal cydgysylltiedig lle bo hynny'n briodol yn glinigol. At hynny, dylai nodi bod rhaid iddynt adolygu gofal a thriniaeth pan na pharheir â gofal yn breifat neu pan fo angen i'r GIG ei hadolygu.

Rhagor o fanylion

Caiff teuluoedd geisio asesiadau preifat o ADHD neu awtistiaeth oherwydd bod amseroedd aros y GIG yn hir. Gall problemau godi wedyn os nad yw gwasanaethau'r GIG yn derbyn neu'n parhau ag asesiad neu driniaeth a gychwynnwyd yn breifat, gan ddal plant rhwng gwasanaethau.

Nid yw'r ddeiseb hon yn gofyn i'r GIG dderbyn pob diagnosis preifat yn awtomatig. Mae'n gofyn am broses glir ledled Cymru fel bod tystiolaeth breifat yn cael ei hadolygu yn erbyn safonau cyhoeddedig, bod teuluoedd yn cael gwybod yn ysgrifenedig y rhesymau am wrthod tystiolaeth, bod gofal a rennir neu ofal cydgysylltiedig yn cael ei ystyried lle bo'n briodol, ac nad yw plant yn cael eu gadael heb driniaeth tra bod pwy sy’n gyfrifol am eu gofal yn aneglur.

Mae'r nod yn syml: dylai penderfyniadau gael eu seilio ar ansawdd clinigol, diogelwch cleifion a budd gorau'r plentyn — nid dim ond ar y cwestiwn a gafodd asesiad ei ariannu'n breifat neu ei gomisiynu gan y GIG.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon