Deiseb Cyfraith Molly: trwyddedu gorfodol, arolygiadau, cofrestr gyhoeddus, a chosbau go iawn i ddiogelu anifeiliaid anwes.

Rydym yn galw am gyflwyno Cyfraith Molly, yn seiliedig ar ein profiad personol o dor calon. Fe adawon ni Molly, ein Labrador euraidd annwyl, gyda darparwr gofal anifeiliaid anwes didrwydded, a ddaeth hi ddim adref. O’i cholli, fe welsom fod bwlch peryglus: dyw hi ddim yn hawdd i berchnogion anifeiliaid anwes wybod pwy sydd wedi’i drwyddedu a’i arolygu, ac yn gweithredu’n unol â safonau lles. Wrth i’r galw am ofal dydd i anifeiliaid anwes ac am eu lletya yn y cartref gynyddu, felly hefyd y risg y gall gweithredwyr didrwydded honni bod yn “broffesiynol”. Mae Cyfraith Molly yn galw am safonau clir, arolygiadau rheolaidd, cosbau go iawn, a chofrestr gyhoeddus er mwyn i deuluoedd allu gwirio’n gyflym pa mor addas yw pob darparwr gofal anifeiliaid anwes.

Llofnodi’r ddeiseb hon

6 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon