Deiseb Diogelu Plant rhag Niwed mewn Sefydliadau Crefyddol yng Nghymru

Rydw i wedi clywed am blant mor ifanc â 5 oed yn cael eu gorfodi i lanhau toiledau mewn rhai lleoliadau crefyddol.

Rhagor o fanylion

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau amddiffyniadau i ddiogelu plant o fewn sefydliadau crefyddol.

Mae pob plentyn yn haeddu cael ei amddiffyn rhag cam-drin, esgeulustod, gweithgarwch anniogel ac arferion disgyblu niweidiol, waeth beth fo credoau crefyddol ei deulu.

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i:

• adolygu arferion diogelu o fewn sefydliadau crefyddol;
• egluro amddiffyniadau i blant sy'n ymgymryd â dyletswyddau glanhau mewn sefydliadau crefyddol, yn enwedig o ran dod i gysylltiad â chemegau, mesurau goruchwylio a threfniadau iechyd a diogelwch;
• sicrhau bod sefydliadau crefyddol yn cydymffurfio â’r cyfreithiau perthnasol o ran diogelu ac iechyd a diogelwch;
• hyrwyddo gweithdrefnau adrodd diogel fel y gall plant godi pryderon heb ofni cosb na gwaharddiad; a
• chyhoeddi canllawiau clir i rieni a sefydliadau crefyddol ar eu cyfrifoldebau i amddiffyn plant.

Ni ddylai unrhyw sefydliad crefyddol fod uwchlaw'r gyfraith. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu amddiffyniad cyfartal, waeth beth fo'r credoau neu’r arferion crefyddol perthnasol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

18 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon