Deiseb Cyflwyno hawl ddiofyn i gadw anifail anwes mewn eiddo rhent yng Nghymru o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi
Gofynnaf i'r Senedd ddiwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn sicrhau bod gan bob tenant hawl gyfreithiol ddiofyn i gadw anifail anwes.
Mae bron yn amhosibl dod o hyd i eiddo yng Nghymru lle caniateir i denantiaid gadw anifeiliaid anwes, er gwaethaf y ffaith bod hon yn wlad lle croesewir anifeiliaid anwes.
Rwyf am weld sefyllfa lle mae eiddo yn destun hawl ddiofyn i gadw anifeiliaid anwes. Dim ond os gall landlordiaid roi rheswm pendant, sy'n gyfiawn yn gyfreithiol, i awdurdodau tai y Senedd y dylid caniatáu iddynt gyfyngu ar yr hawl hon.
Rhagor o fanylion
Dim ond tua 7% i 8% o eiddo rhent preifat yng Nghymru sy'n cael eu hysbysebu'n ffurfiol fel rhai lle croesewir anifeiliaid anwes.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd