Deiseb Dylid darparu £6.5 miliwn mewn cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer endometriosis a llwybrau gofal trawsffiniol diogel yng Ngogledd Cymru

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi swm werth o leiaf £6.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer gofal endometriosis, a hynny ar wahân i’r dyraniadau bloc ar gyfer y byrddau iechyd. Rhaid defnyddio’r cyllid hwn i greu gwasanaethau arbenigol amlddisgyblaethol parhaol, wedi’u hachredu, yng Ngogledd Cymru. Ar ben hynny, rhaid diwygio'r fframwaith gofal iechyd trawsffiniol er mwyn amddiffyn cleifion sydd â salwch cronig â diagnosis wedi'i gadarnhau, rhag cael eu gadael heb lwybr triniaeth clir rhwng ffiniau oherwydd bod eu cyflwr wedi'i gategoreiddio fel un anfalaen.

Rhagor o fanylion

Mae Cynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, sy’n gynllun 10 mlynedd, yn cynnwys addewid i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau. Heb gyllid pwrpasol, ni fydd modd cyrraedd y nod hwn. Mae dibynnu ar gontractau bloc ar gyfer llawdriniaeth gyffredinol ym maes gynaecoleg yn arwain at gystadleuaeth uniongyrchol am adnoddau rhwng gofal endometriosis cymhleth a llwybrau oncoleg brys.

Mae'r methiant hwn ar ei waethaf yng Ngogledd Cymru. Nid oes gan gleifion sydd o dan oruchwyliaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynediad at ganolfan arbenigol achrededig leol. O ganlyniad, mae menywod sy'n dioddef o salwch cronig yn cael eu hunain yn gaeth rhwng ffiniau. Gan fod endometriosis wedi'i gategoreiddio fel cyflwr nad yw'n angheuol, mae’r cleifion yn cael eu dadflaenoriaethu, ac maent yn wynebu rhwystrau biwrocrataidd difrifol wrth geisio sicrhau atgyfeiriadau trawsffiniol i ofal trydyddol yn Lloegr. Maent yn cael eu gadael mewn sefyllfa o ansicrwydd meddygol—nid ydynt yn marw, ond nid ydynt yn gallu byw eu bywyd ychwaith.

O safbwynt gweithredol, mae angen dyrannu swm wedi'i glustnodi o £6.5 miliwn bob blwyddyn. Bydd hyn yn cael gwared ar y loteri cod post, yn sicrhau seilwaith lleol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn sicrhau nad yw anghydfodau ariannu yn gadael cleifion heb ofal na’r posibilrwydd o lawdriniaeth.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon