Deiseb Diwygio cyfraith gynllunio Cymru i sicrhau gwarchodaeth statudol i dreftadaeth fyw mewn Cynlluniau Datblygu Lleol
Mae cymunedau trefol Cymru’n cael eu boneddigeiddio. Mae cymunedau amlddiwylliannol hanesyddol fel Butetown (Caerdydd) a Philgwenlli (Casnewydd) yn cael eu dinistrio oherwydd adfywio.
Mae'r ddeiseb hon yn gofyn am i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gael ei diwygio trwy fewnosod ‘treftadaeth fyw a lles diwylliannol’ fel ystyriaeth berthnasol statudol o dan Adran 70, gan efelychu’r mecanwaith a ddefnyddir ar gyfer y Gymraeg.
Byddai gwneud hyn yn mynd i’r afael â bylchau sy’n gadael treftadaeth anniriaethol dosbarth gweithiol ac amlddiwylliannol heb warchodaeth.
Rhagor o fanylion
Byddai’r diwygiad hwn yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn cyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP), ac yn grymuso Cynlluniau Bro o dan y Cynlluniau Datblygu Lleol. Ar hyn o bryd, mae polisi cynllunio Cymru yn trin treftadaeth fel rhywbeth cwbl ffisegol, sy’n creu gwendid cenedlaethol lle mae hanes byw a chysylltiadau cymdeithasol cymunedau dosbarth gweithiol amrywiol yn ddiymadferth yn gyfreithiol yn wyneb prosesau boneddigeiddio sy’n cael eu gyrru gan elw.
Mae cymunedau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a'r Barri yn wynebu’r un amlygiad strwythurol ac anghyfiawnder gofodol.
Mae’r ddeiseb hon yn galw am offeryn gorfodadwy a fyddai’n sicrhau bod treftadaeth fyw yn ystyriaeth berthnasol statudol drwy Asesiadau mandadol o Effaith. Byddai ymgorffori hyn yng nghyfraith cynllunio Cymru yn fodd cyfreithiol i bobl leol ddefnyddio Cynlluniau Bro o dan gynlluniau datblygu lleol i sbarduno amddiffyniadau. Byddai hyn yn cyflawni’r addewid yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ddymchwel rhwystrau sefydliadol, gan roi i gynllunwyr y pŵer penodol i wrthod cynlluniau sy'n dadleoli yn gorfforol ac yn ddiwylliannol gymunedau sydd wedi cael eu hymyleiddio yn hanesyddol.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd