Deiseb Darparu cyllid 0% i berchnogion tai nad ydynt yn gymwys ar gyfer cyllid gwella cartrefi eraill
Gall perchnogion tai ar incwm isel a/neu sydd ar fudd-daliadau fod yn gymwys i gael grantiau'r llywodraeth a gallant gael mynediad at gyllid i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a gall hyd yn oed landlordiaid gael mynediad at gyllid ar gyfer gwelliannau o'r fath.
Fodd bynnag, mae toriad sydyn lle mae pobl nad ydynt yn hawlio budd-daliadau ar incwm cymedrol yn wynebu gwariant sylweddol pe baent yn dymuno ‘mynd yn wyrdd’. Byddai mynediad at gyllid cost isel (0%) yn pontio'r bwlch hwnnw ar gyfer aelwydydd incwm canolig.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd