Deiseb a gwblhawyd Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad i symud yr holl Feddygon CT2 o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn yr hydref heb ymgynghori â’r cyhoedd o flaen llaw. Mae’r penderfyniad hwn yn golygu na fydd gwasanaethau meddygol aciwt yn cael eu darparu yn yr ysbyty, a bydd rhaid i gleifion deithio i Dreforys yn Abertawe neu i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael gwasanethau o’r fath. Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ysbyty Menter Cyllid Preifat o’r radd flaenaf, ac mae trigolion yr ardal hon am i wasanaethau sydd mor hanfodol gael eu cadw yn ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

193 llofnod

Dangos ar fap

5,000