Deiseb a gwblhawyd Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth
Cynnig: Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef cenedl sy’n enwog yn fyd-eang am garu barddoniaeth, i ganmol y cariad tebyg ymysg ei dinasyddion o dras Somalïaidd yn hynny o beth, y mae eu diwylliant traddodiadol yn ystyried mai barddoniaeth yw’r dull craidd o fynegi mewn diwylliant. Daw ein galwad ar ddechrau’r Cadoediad Olympaidd, sef y cyfnod a arferai ddechrau wythnos cyn y Gemau Olympaidd yn yr hen oes, a gorffen wythnos ar ôl iddynt ddod i ben, gan alluogi athletwyr i deithio’n ddirwystr drwy diroedd gelynion traddodiadol i gystadlu yn unol ag ymdeimlad ekecheiria, sef dal dwylo. A ninnau’n ddinasyddion Cymru, yn caru barddoniaeth, ac wedi ymrwymo i ymdrechu i sicrhau heddwch ym mhob gwlad, a rhwng y gwledydd, rydym yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd, yn ein barn ni, yn uno’r gwerthoedd hyn. Rydym yn gwahodd pawb i ychwanegu eu henw at y ddeiseb, a gobeithiwn y byddwch yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng cymunedau yn ein dwy wlad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon