Deiseb a gwblhawyd Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd ar gefnffyrdd yng Nghymru ac i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yn gofyn bod goleuadau stryd lleol yn cael eu newid fel eu bod yn defnyddio ynni amgen.
Gwybodaeth Ategol : Mae Llywodraeth Cymru’n honni ei bod yn gweithio yn ôl Agenda 21, sef lleihau llygredd drwy leihau’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio. Yn ystod y nos, mae goleuadau stryd yn golygu bod yr ynni yr ydym yn ei ddefnyddio yn cyrraedd uchafswm. Felly, credaf y dylai’r Llywodraeth newid ffynhonnell ynni goleuadau stryd yn y wlad. Er enghraifft, mae ynni solar ac ynni gwynt yn cael eu defnyddio yn barod ar gyfer rhai arwyddion stryd, a byddai newid yr holl oleuadau stryd yn cynnig cyfleoedd gwaith eang a chynaliadwy i filoedd. Byddai’r darparwyr trydan wedyn yn gallu gostwng eu prisiau i’r defnyddwyr a’r awdurdodau lleol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon