Deiseb a gwblhawyd Tîm Cymru
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i geisio cytundeb â’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ynghylch diwygio’r Siartr Olympaidd i gydnabod gweinyddiaethau datganoledig Prydain Fawr yn eu rhinwedd eu hunain, fel y gallai Llywodraeth Cymru sefydlu Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol, ac fel y gallai ein hathletwyr gystadlu fel rhan o Dîm Cymru yn y dyfodol.
Mae gennym doreth o athletwyr talentog yng Nghymru o ystyried maint ein gwlad; oni fyddai’n wych gweld EIN hathletwyr NI ar y podiwm gyda’u medal aur, wrth i anthem genedlaethol Cymru gael ei chwarae’n uchel i’r byd a baner genedlaethol Cymru (y Ddraig Goch) gael ei chwifio yn y cefndir? Ar hyn o bryd, rhaid iddynt wrando ar anthem sy’n fwy cysylltiedig â Lloegr a gweld baner nad yw’n cynnwys ein baner ni ond baneri Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, gadewch i ni ddod â thîm ynghyd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd nesaf, yn Rio, yn 2016.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon