Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad

Deiseb a gwblhawyd Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Rydym o’r farn bod hyn yn hanfodol ar gyfer cymunedau lleol ac economi Cymru oherwydd bydd yn galluogi pobl a gwasanaethau i gael eu cludo i ardaloedd sydd wedi’u hynysu fel arall.

Bydd hyn yn cefnogi’r economïau lleol ac yn creu cyswllt teithio llyfnach rhwng y Gogledd a’r De. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid teithio drwy Loegr er mwyn cael cysylltiadau trên rhwng y Gogledd a’r De.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,192 llofnod

Dangos ar fap

5,000