Deiseb a gwblhawyd Cartref Nyrsio Brooklands

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried a fyddai lleoli safle amwynder dinesig tua 30 metr o Gartref Nyrsio Brooklands yn tresbasu ar hawliau dynol preswylwyr y cartref.

Gwybodaeth ategol : Mae staff Brooklands a pherthnasau’r cleientiaid yn anfodlon iawn. Mae’r cyngor yn cynnig lleoli’r amwynderau dinesig o Ddinbych y Pysgod ger Cartref Nyrsio Brooklands. Rydym yn teimlo’n gryf y dylai’r preswylwyr dreulio’u diwrnodau olaf yn mwynhau heddwch a thawelwch, ac na ddylai sŵn, llygredd, traffig ac amhariad gan wylanod ac yn y blaen amharu arnynt. Mae ein cleientiaid yn oedolion bregus nad ydynt yn gallu mynegi eu barn ac felly mae angen eich cymorth chi arnynt. A hoffech chi dreulio gweddill eich bywyd â’r tip sbwriel yn gymydog i chi? Ni fyddem ni’n dymuno hynny. Gofynnwn i chi helpu gyda’n deiseb a llofnodi isod.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,599 llofnod

Dangos ar fap

5,000